Incerts
Sut mae’n gweithio?Gallwch fewngofnodi i Incerts yn unrhyw le sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd. Gallwch ei ddefnyddio ar eich cyfrifiadur desg, gliniadur neu dabled, sy’n cysylltu’n diogel â’n gweinyddion.
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, byddwch fel arfer yn anelu at y tudalennau ‘Asesu’, lle gallwch gofnodi beth y gall plant ei wneud a gweld ar unwaith beth y byddant yn ei wneud nesaf. |
Mwy na dim ond ticio blychauGallwch ychwanegu nodiadau at eich cofnodion, gan gynnwys testun, lluniau, fideos a chlipiau sain, i rannu darlun llawnach o deithiau dysgu eich plant.
Mae Incerts yn eich helpu chi i gyfathrebu gyda rhieni trwy gynhyrchu adroddiadau personol manwl sy’n seiliedig ar yr asesiadau a wnaethoch. Gallwch rannu’r rhain fel dogfennau papur yn y ffordd draddodiadol, neu gallwch roi mynediad i rieni at y ‘darlun llawnach’ ar-lein! |