Olrhain a’r camau nesaf

Taith360 planning and assessment tool

Edrychwch yn fanwl ar sut y gallwch olrhain cyrhaeddiad eich disgyblion a lanlwytho nodiadau a thystiolaeth i gefnogi’r cyrhaeddiad a arsylwyd.

Archwiliwch y data a gynhyrchir gan y cyraeddiadau hyn a sut y gellir ei ddefnyddio i nodi camau nesaf addas a phenodol ar gyfer eich disgyblion.

Cynllunio a Chwmpas

Taith360 planning and assessment tool

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar greu ac olrhain cynlluniau, o ran cyrhaeddiad a chwricwlwm cynlluniedig.

Yn y sesiwn hon byddwn yn nodi sut y gall arweinwyr ysgol ddefnyddio’r system i sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys yn cael ei gyflwyno.

Cynnydd a’r Tudalennau Data

Taith360 planning and assessment tool

Archwilio’r tudalennau data ar y system, a sut y gellir eu defnyddio i ddeall yn well beth yw anghenion eich disgyblion, er mwyn iddynt fanteisio i’r eithaf ar eu potensial ar hyd eu taith ddysgu.

Dysgwch sut i weld cynnydd o ran cynnydd y flwyddyn gyfredol neu gynnydd dros gyfnod penodol o amser.

Prisiau

Mae pob modiwl ar-lein yn costio £100 (+TAW) Dyma’r pris ar gyfer yr ysgol, boed gennych 2 neu 22 o staff yn ymuno â’r sesiwn.

Hyfforddiant

Cyrsiau Hyfforddiant Ychwanegol

Cymerwch gip ar ein cyrsiau hyfforddi ychwanegol sydd ar gael

User Guide Training

Hyfforddiant Canllaw Defnyddwyr

Mae’r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer rhywun sy’n chwilio am drosolwg o Taith360 mewn fformat canllaw defnyddiwr. Rydym yn ymdrin â phob agwedd ar y system yn ddigon manwl i’ch cael yn barod i ddechrau ar y system.

Training Assessment360

Hyfforddiant pwrpasol

Mae ein dewis hyfforddi pwrpasol wedi’i gynllunio i sicrhau y gellir diwallu anghenion hyfforddi pob ysgol. Creu pecyn hyfforddiant personol eich ysgol drwy ddewis naill ai tair neu bum uned o’n rhestr gynyddol o opsiynau.

Cysylltwch

Asesu wrth galon y dysgu

Yn Assessment360, rydym yn deall pwysigrwydd lleihau llwyth gwaith athrawon nad yw’n ymwneud ag addysgu ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r offer a’r cymorth i’n hysgolion wneud hynny. Trwy gydweithio ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn y DU, mae gennym hanes o ddylunio systemau arloesol sy’n cynnig offer cynllunio, olrhain ac adrodd cyflawn, gan eich galluogi i olrhain dysgu plentyn ar draws y cwricwlwm llawn.

I drafod sefydlu ein hoffer arbenigol Taith360 (Cymru) neu Turas360 (Yr Alban) ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost at support@assessment360.org.

Testimonial Logo
Testimonial Logo
Testimonial YSGOL
Testimonial Logo
Testimonial Logo
Testimonial Logo