Mae miloedd o athrawon yng Nghymru wedi elwa o’n sesiynau hyfforddi cychwynnol Taith360.
“Diolch am y cwrs y bore yma. Fel bob amser, mor drylwyr a hawdd ei ddilyn. Ro’n i’n poeni ynghylch asesu ond mae hyn wedi fy helpu i o ddifrif i ddeall sut y gallaf wneud hyn. Dw i’n meddwl hefyd fod y dewis cynllunio yn beth da.”
Prifathro
Sir Ddinbych
Bydd yr hyfforddiant ar gyfer Taith360 yn parhau drwy gydol blwyddyn academaidd 2021/22. Cliciwch yma am fanylion pellach, ac i weld pa bryd fydd ein digwyddiadau nesaf.
Beth yw Taith360?
TMae Taith360 yn ddull cyflawn o gynllunio ac asesu a luniwyd ar gyfer Cwricwlwm newydd Cymru.
Cynllunio – Creu cynlluniau sy’n dod ag elfennau at ei gilydd o bob un o chwe maes y cwricwlwm yn ogystal â’r fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd. Olrhain – Monitro gwaith a chynnydd ar draws y pum cam cynnydd i helpu dewis y camau nesaf i ddisgyblion unigol a chohortau cyfan. (Hyn i ddod yn fuan) Asesu – Gwneud dyfarniadau ar gyfer pob disgybl ym mhob maes ac ar draws pob cam cynnydd er mwyn llunio darlun o daith ddysgu pob plentyn o’u diwrnod cyntaf un yn yr ysgol i’r adeg maent yn gadael yn 16 oed. Mae datblygu parhaus yn sicrhau bod y system yn cael ei diweddaru’n gyson a’i bod yn gallu diwallu anghenion yr ysgolion sy’n ei defnyddio. |
Plan
Mae Taith360 yn cynnig dull cynllunio hyblyg sy’n eich galluogi i greu, golygu a rhannu cynlluniau sy’n addas i leoliad a gofynion cynllunio eich ysgol.
Click here to learn more about using Taith360's planning tool |
Olrhain
Mae Taith360 wedi ei lunio i helpu rhwyddhau’r pontio i Gwricwlwm 2022 a chynorthwyo gyda monitro cynnydd, gwaith, a’r camau nesaf.
|
Asesu
Asesu ar gyfer dysgu yw hanfod yr hyn a wnawn. Mae Taith360 yn cynnig golwg glir o allu pob disgybl ar lefel unigolyn a dosbarth.
Click here to learn more about making assessments on Taith360 |
Gweld
Mae cwricwlwm newydd Cymru yn canolbwyntio’n gryf iawn o amgylch y disgybl cyfan. Mae Taith360 yn eich galluogi i gofnodi a monitro profiadau, teimladau ac agweddau allweddol eich dysgwyr yn ogystal â’u llwyddiant academaidd.
|
Cysylltu
Un o’r camau mwyaf ymlaen yn Taith360 yw y gall gysylltu’n uniongyrchol â MIS eich ysgol, gan wneud diweddariadau â llaw yn rhywbeth o’r gorffennol.
Mae cyfathrebu agored a gonest yn rhan fawr o’r cwricwlwm newydd. Mae Taith360 yn cynnig llwyfan ar gyfer adrodd i rieni a rhannu cynnydd disgyblion trwy’r cwricwlwm newydd.
Mae cyfathrebu agored a gonest yn rhan fawr o’r cwricwlwm newydd. Mae Taith360 yn cynnig llwyfan ar gyfer adrodd i rieni a rhannu cynnydd disgyblion trwy’r cwricwlwm newydd.
|
I drafod sefydlu Taith360 yn eich ysgol, neu i archebu dangosiad a threial am ddim, cysylltwch â’r Tîm Cymorth ar 0330 8281 360 neu support@assessment360.org.
The contents of this web page are the Intellectual Property of Assessment360 and should not be copied without prior consent.