Gweledigaeth sy’n sail i’r hyn a wnawn
Rydym yn gweithio dros fyd lle’r ydym yn cysylltu pob athro â’r pethau y mae pob plentyn yn eu gwybod a’u deall ac yn gallu’i wneud. Mae asesu ffurfiannol yn offeryn y dylai pob athro ei ddefnyddio ac y dylai allu manteisio i’r eithaf arno. Gall Taith360 fod eu harf mwyaf grymus ar gyfer helpu pob plentyn i gyrraedd eu potensial.
Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn symud oddi wrth ddefnyddio asesu fel dull crynodol a thuag at weithredu sgôr ffit orau i ddysgu plentyn. Rydym wedi bod yn cydweithio gydag ysgolion yng Nghymru i lunio system gynllunio ac asesu gyfan a all helpu olrhain dysgu plentyn ar draws y pum cam cynnydd o 3-16 oed. |
Nid ydym yn gweithio ar ein pen ein hunain
Rydym yn rhan o chwyldro asesu, yn arwain y ffordd gyda’n hofferynnau arloesol ar-lein, a dull cydweithredol mentrus o rannu’r hyn a ddysgwn.
Yn ogystal â gweithio’n uniongyrchol gyda dros 1,000 o ysgolion, buom yn gweithio mewn partneriaeth â GL Assessment i lunio Proffil y Cyfnod Sylfaen i Lywodraeth Cymru. Ac mae llawn cymaint o ysgolion yn Lloegr yn elwa o’r ddyfais asesu sylfaenol ar-lein yr ydym wedi ei datblygu i’r NFER, sy’n un o dri asesiad yn unig i gael cymeradwyaeth derfynol gan Adran Addysg Lloegr. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru i ddatblygu Taith360, ei dull cynllunio ac asesu cyflawn ar gyfer Cwricwlwm 2022.

Nid dyna’r cyfan
Mae gan Assessment360 hanes o greu dulliau arloesol a fframweithiau asesu ar-lein gan gynnig cymorth o ansawdd uchel i bob defnyddiwr. Rydym wrthi o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella, boed hynny i wneud eich bywydau yn haws, adlewyrchu’n well y pethau mae arnoch eu hangen neu ymateb i unrhyw newidiadau yn y cwricwlwm neu ganllawiau.
I drafod sefydlu Taith360 ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost atom ar support@assessment360.org.
I drafod sefydlu Taith360 ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni ar 0330 8281 360 neu anfonwch e-bost atom ar support@assessment360.org.